Neidio i'r prif gynnwy

Codi Pryderon

Cwynion yn y Gwasanaeth Iechyd

Os oes gennych gwyn neu gonsyrn ynglŷn â’r gwasanaeth rydych wedi ei dderbyn gan y Meddygon neu unrhyw aelod o staff sy’n gweithio yn y Feddygfa, yna gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda. Rydym yn cynnal gweithdrefn gwynion yn y Feddygfa fel rhan o’r system GIG ynglŷn â delio gyda chwynion. Mae’r system gwyno sydd gennym yn cyfarfod â’r criteria cenedlaethol.

 

SUT I GWYNO

Rydym yn gobeithio y gall y rhan fwyaf o’r problemau sy’n codi gael eu sortio yn fuan ac yn ddi-drafferth a hynny fel arfer ar yr amser y maent yn dod i’r amlwg gyda’r person penodol hwnnw.  Os na all y broblem gael ei sortio yn y ffordd yma, ac rydych yn dymuno gwneud cwyn, fe fyddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn gadael i ni wybod mor fuan â phosibl – unai o fewn ychydig ddyddiau, neu ar y hwyraf, ychydig wythnosau – oherwydd fe fyddai hyn yn ei gwneud hi’n haws i ni sefydlu beth yn union ddigwyddodd.  Os nad yw’n bosibl gwneud hynny, yna gadewch i ni gael gwybod manylion eich cwyn:

  • O fewn chwe mis i’r dyddiad pryd ddigwyddodd yr hyn sy’n sail i’r gwyn, neu
  • Y dyddiad pryd ddaeth yr hyn sy’n sail i’r gwyn i sylw’r person sy’n gwneud y gwyn ond dim mwy na 12 mis ar ol y digwyddiad.

Fe ddylai’ch cwyn gael ei chyfeirio unai i Reolwr y Feddygfa neu i unrhyw un o’r Meddygon. Yn ogystal, fe allwch wneud apwyntiad gyda Rheolwr y Feddygfa er mwyn trafod eich consyrn. Fe fydd Rheolwr y Feddygfa yn esbonio’r drefn gwyno i chi ac fe fydd yn gwneud yn siwr bod eich consyrn yn cael ei ddelio yn ddi-ymdroi. Fe fyddai o fydd mawr pe baech yn gallu bod mor fanwl â phosibl ynglŷn â’ch cwyn. 

 

YR HYN FYDDWN NI YN EI WNEUD

Fe fyddwn yn cydnabod eich cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith. Pe gwnaed eich cwyn ar lafar, yna byddwn yn cadarnhau manylion eich cwyn, fel y gwnaethom ni eu deall, mewn ffurf ysgrifenedig.

Wedi hyn, fe awn ati i gynnal ymchwiliad gan gyflwyno i chi ymateb ffurfiol o fewn 30 diwrnod gwaith. Os na allwn gydymffurfio â’r amserlen, fe fyddwn yn gadael i chi wybod yn ogystal â rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut mae eich cwyn yn symud ymlaen. Fe fyddwn yn rhoi ymateb i chi mor fuan ag sy’n resymegol bosibl.

Pan fyddwn yn ymchwilio i’ch cwyn, fe fyddwn yn anelu i:

  • Ddarganfod yn union beth ddigwyddodd a beth aeth o’i le.
  • Ei gwneud yn bosibl, pe baech yn dymuno, i drafod y broblem gyda’r rhai hynny dan sylw.
  • Sicrhau eich bod yn derbyn ymddiheuriad lle mae hyn yn briodol.
  • Adnabod yr hyn allwn ei wneud i sicrhau nad yw’r broblem hon yn codi eto.

 

CWYNO AR RAN RHYWUN ARALL

Hoffem eich hysbysu ein bod yn cadw’n gaeth i’r rheolau ynglŷn â chyfrinachedd meddygol. Os ydych yn gwneud cwyn ar ran rhywun arall, mae’n rhaid i ni gael gwybod bod gennych eu caniatâd i wneud hynny. I’r perwyl hwn, fe fydd angen nodyn wedi ei arwyddo gan y person hwnnw oni bai, oherwydd salwch, ei bod yn anabl i gyflawni hyn.

CWYNO I GYRFF ERAILL

Rydym yn gobeithio pe cyfyd problem, y byddwch yn defnyddio gweithdrefn gwyno’r Feddygfa.  Rydym o’r farn mai dyma fydd yn rhoi’r cyfle gorau o gywirio’r hyn sydd wedi mynd o’i le yn ogystal â bod yn ffordd i ni wneud gwelliannau. Nid yw hyn fodd bynnag, yn effeithio dim ar eich hawl i gysylltu â’r Bwrdd Iechyd Lleol os ydych yn teimlo na allwch gyflwyno eich cwyn i ni.

Manylion cyswllt y Bwrdd Iechyd Lleol yw:

Tîm Consyrn

Ysbyty Gwynedd

Bangor

Gwynedd

LL57 2PW

Tel: 01248 384194

E-mail: concernsteam.bcu@wales.nhs.uk

 

Yn ychwanegol, mae’r Cyngor Iechyd Cymunedol (CIC) yn darparu gwasanaeth dadleuaeth annibynnol yn rhad ac am ddim a all fod o gymorth i gleifion neu bobl sy’n gweithredu ar eu rhan i gyflwyno eu consyrn. Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cwynion Dadleuol CIC lleol drwy:

Uned 11 Chestnut Court

Parc Menai

Bangor

Gwynedd

LL57 4FH

Tel: 01248 679284 option 2

E-mail: complaints@bcchc.org.uk

 

Yr hyn ddylech ei wneud os ydych yn dal yn anfodlon

Os oes ymchwiliad wedi’i wneud i’ch consyrn neu gwyn a’ch bod yn anfodlon gyda’r ymateb, yna fe ellwch gysylltu â Gwasanaethau Cyhoeddus yr Ombwdsmon i Gymru drwy gysylltu â:

Yr Ombwdsmon i Gymru

1 Yr Hen Gae

Pencoed

CF35 5LJ

Tel: 0845 60109897

www.ombudsman-wales.org.uk

Email : ask@ombudsman-wales.org.uk

 

Share: