Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau

Rydym ar agor rhwng 8.00 y.b. a 6.30 y.p. o ddydd Llun i ddydd Gwener. Mae'r Feddygfa ar gau ar ddydd Sadwrn a dydd Sul ynghyd â holl Ŵyl y Banc.

I wneud apwyntiad, ffoniwch 01248 600212 (mae pob galwad yn cael ei recordio) neu ofyn am apwyntiad nad yw'n frys neu alwad yn ôl nad yw'n frys drwy e-bostio cyfeiriad e-bost y Feddygfa Enquiries.Yrhenorsaf@wales.nhs.uk. 

Gallwch hefyd gysylltu gydag ein clinigwyr drwy ymweld â eConsult (ar gael o 7yb tan 4yp dydd Mawrth i ddydd Iau, 7yb tan 2yp dydd Gwener). Dylir ond defnyddio'r dull hwn ar gyfer materion arferol. I ddefnyddio eConsult, cliciwch ar y ddolen http://yrhenorsaf.webgp.com/

Oherwydd ein profiad yn ystod y pandemig COVID-19 a'r lefel uchel o alw gan gleifion, ni fyddwn yn ailgyflwyno'r feddygfa agored.

Gall cleifion ofyn am apwyntiad galw'n ôl neu wyneb yn wyneb arferol gyda meddyg ar yr un diwrnod, apwyntiad galw'n ôl neu wyneb yn wyneb â meddyg y gellir ei drefnu ymlaen llaw lle bydd meddyg yn eich ffonio'n ôl neu eich gweld ar ddyddiad y cytunwyd arno neu apwyntiad brys ar gyfer unrhyw faterion sy'n gofyn am gymorth brys ar yr un diwrnod. Sylwer bod tîm y dderbynfa wedi cael cyfarwyddyd i ofyn i gleifion am y rheswm dros eu cais er mwyn helpu i flaenoriaethu galwadau.
Bydd y meddyg pob amser yn ceisio eich ffonio ddwywaith. Os ydych yn ymwybodol bod galwad wedi'i threfnu ar eich cyfer, os gwelwch yn dda sicrhewch bod eich ffon ar gael i chi dderbyn yr alwad. Os na all y meddyg gysylltu â chi ar ôl dau gynnig, yna gofynnir i chi aildrefnu eich apwyntiad.
Os gwelwch yn dda, noder: mae tîm y dderbynfa yn gweithio o dan gyfarwyddiadau'r meddygon. Gofynnir i chi am ddisgrifiad o'ch symptomau i helpu ein tîm i'ch cyfeirio at y clinigwr mwyaf priodol. Os gwelwch yn dda, byddwch yn gwrtais i'n staff sy'n dilyn protocolau a pholisïau'r Feddygfa. Cofiwch fod pob galwad i'r Feddygfa yn cael eu recordio ac rydym yn gweithredu polisi dim goddefgarwch yn erbyn ymddygiad camdriniol/ymosodol tuag at ein staff.
 
Ymweliadau Cartref

Os teimlwch bod angen ymweliad cartref arnoch, cysylltwch â'r Feddygfa cyn 10.00 y.b.

Os na allwch gadw apwyntiad rhowch wybod i ni fel y gellir ei gynnig i rhywun arall.

 PEIDIWCH AG OEDI I GYSYLLTU OS OES GENNYCH UNRHYW BRYDERON AM EICH IECHYD

Myfyrwyr Meddygol

Mae myfyrwyr meddygol o ysgolion meddygol Caerdydd, Lerpwl a Manceinion yn ymgymryd â lleoliadau yn y Feddygfa. Mae’n bosibl y cewch gynnig apwyntiad gyda myfyriwr meddygol. Byddwch yn cael gwybod am hyn bob amser ac yn cael cynnig apwyntiad gyda meddyg os yw'n well gennych.

 

 

 

Share: