Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Preifat

Gwasanaethau Preifat

Nid yw rhai gwasanaethau a ddarperir wedi'u cynnwys o dan ein cytundeb gyda'r GIG ac felly'n codi tâl. Efallai y bydd angen talu'r taliadau hyn ymlaen llaw; bydd tîm y dderbynfa yn rhoi gwybod ar yr adeg y gwneir eich cais.

Efallai y gofynnir i chi ddod i'r Feddygfa am archwiliad meddygol fel rhan o'ch cais, mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys archwyliad meddygol TACSI a HGV. Unwaith y byddwch wedi mynegi diddordeb, bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at ein rhestr aros a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd apwyntiad gyda meddyg ar gael.

Mae'r ffioedd a godir yn seiliedig ar raddfeydd a awgrymwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA). 

Pan fyddwch angen llythyr mwy penodol ynghylch diagnosis a thriniaethau penodol neu ffurflenni i’w llenwi, daw’r ceisiadau hyn o dan gylch gwaith ein Gwasanaethau Preifat ac nid ydynt wedi’u cynnwys mewn cais SAR syml; nid yw'r gwasanaethau hyn wedi'u cynnwys o dan ein cytundeb gyda'r GIG ac felly'n denu taliadau. Mae'n ofynnol weithiau i'r taliadau hyn gael eu talu ymlaen llaw ar ôl derbyn eich cais; bydd ein tîm ysgrifenyddol yn eich cynghori pan fyddant yn cysylltu â chi ynghylch eich cais.

***Nid ydym yn llenwi ffurflenni pasbort ***

***Nid ydym bellach yn llenwi Ffurflenni Bathodyn Glas yn y Feddygfa. Cysylltwch â'ch Cyngor lleol am y gwasanaeth hwn. Nid oes angen unrhyw wybodaeth gan eich meddyg teulu ynglŷn â hyn. ***

Share: