Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau y tu allan i oriau arferol

Gwasanaeth Meddygon Teulu Y Tu Allan I Oriau 

Mae Gwasanaeth Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau Betsi Cadwaladr yn darparu gwasanaeth cyflenwi ar gyfer problemau meddygol brys yn unig, ar gyfer y cyfan o ddydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc, yn ogystal â rhwng 6.30 y.p. ac 8 y.b. o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall trigolion ddeialu 111 am ddim os oes angen cyngor meddygol brys arnynt pan fydd eu meddygfa ar gau.

Am 111
Mae 111 yn rhif ffôn AM DDIM i breswylwyr ei ddeialu os oes angen cymorth a chyngor gofal iechyd brys arnynt. Hyd yn hyn mae pobl wedi gorfod defnyddio rhifau gwahanol i gysylltu â phob gwasanaeth. Yn hytrach na disodli Galw Iechyd Cymru a Meddygon Teulu y Tu Allan i Oriau, mae’r rhif 111 yn dod â nhw ynghyd gyda chefnogaeth gan staff clinigol ac anghlinigol ychwanegol.

Bydd pobl sy'n ffonio 111 yn siarad yn gyntaf â thriniwr galwadau sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig a fydd yn gofyn cyfres o gwestiynau. Bydd hyn yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol y gwasanaeth - nyrsys, ac yn ystod nosweithiau, penwythnosau a gwyliau banc, meddygon teulu a fferyllwyr - flaenoriaethu galwadau fel bod y rhai mwyaf difrifol wael yn cael eu trin yn gyntaf. Yn dibynnu ar eu cyflwr, bydd galwyr yn cael galwad yn ôl gan nyrs, meddyg neu fferyllydd yn ystod y cyfnod y tu allan i oriau.

Yn hollbwysig, mae derbynwyr galwadau wedi'u hyfforddi i adnabod pan fo bygythiad i fywyd. Felly bydd pobl sy'n deialu 111 ond sydd wir angen ambiwlans yn cael eu trosglwyddo'n syth i'r gwasanaeth ambiwlans brys.

Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw ac nad ydych chi'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain neu os oes gennych chi gyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar, gallwch chi gysylltu â 111 o hyd trwy Next Generation Text/ Text Relay (a elwid gynt yn Type Talk) drwy ddeialu 18001 111. Os nad oes gennych gyfrifiadur, ffôn clyfar neu dabled gallwch ddefnyddio InterpreterNow 7 diwrnod yr wythnos, rhwng 8 y.b. a hanner nos drwy fynd i’w gwefan.

Comisiynir y gwasanaeth hwn gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mewn argyfyngau sy'n bygwth bywyd fel gwaedu difrifol, llewyg, anymwybyddiaeth a phoenau difrifol yn y frest: FFONIWCH 999 AR UNWAITH

Share: