Neidio i'r prif gynnwy

Hunangymorth a Gofal

Hunangymorth a Gofal

Yn ogystal â’r gofal a ddarparwn yn ein practis, mae yna wasanaethau GIG lleol eraill y gallwch gysylltu â nhw i gael cyngor, gwybodaeth neu driniaeth iechyd am ddim fel  GIG 111 Cymru.

Os ydych yn ansicr ynghylch eich symptomau neu sut i drin eich hun, gallwch ymweld â gwefan GIG 111 Cymru a defnyddio gwiriwr symptomau GIG 111  i gael cyngor ar gyflyrau, triniaeth ac ataliad pellach.  Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael eich gweld yn y lle iawn y tro cyntaf.

Os oes gennych broblem feddygol na all aros nes bod y feddygfa'n agor fel mater o drefn, ffoniwch 111 NEU Mewn Argyfyngau sy'n bygwth bywyd fel gwaedu difrifol, llewyg, anymwybyddiaeth a phoenau difrifol yn y frest FFONIWCH 999 AR UNWAITH

Dewis Fferyllfa

Gall eich Fferyllydd roi triniaeth a chyngor cyfrinachol GIG, yn rhad ac am ddim, ar amryw o anhwylderau cyffredin heb i chi orfod gwneud apwyntiad i weld eich meddyg teulu.

Sut mae’n gweithio?

  • Os oes gennych anhwylder cyffredin, gallwch ymweld â fferyllfa a gofyn am gyngor gan y fferyllydd.  Efallai y bydd y fferyllydd yn gofyn a hoffech gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.  Drwy gofrestru gall y fferyllydd roi’r feddyginiaeth sydd ei angen arnoch yn rhad ac am ddim.
  • Efallai y bydd angen i chi ddangos rhyw fath o ddogfen adnabod i’r fferyllydd cyn medru defnyddio’r gwasanaeth, ond bydd hynny’n dibynnu a yw’r fferyllydd yn eich adnabod neu beidio.
  • Bydd y fferyllydd yn gwirio’r manylion yn erbyn Gwasanaeth Demograffig GIG Cymru er mwyn cadarnhau eich bod wedi cofrestru gyda Meddyg yng Nghymru.
  • Nid oes angen i chi wneud apwyntiad.  Gallwch alw unrhyw bryd sy’n gyfleus i chi.
  • Cewch ymgynghori â fferyllydd cymwys, mewn ardal gyfrinachol o fewn y fferyllfa.
  • Os bydd eich fferyllydd yn cytuno bod angen meddyginiaeth neu gynnyrch i drin eich symptomau, gall eu rhoi i chi yn rhad ac am ddim.
  • Os nad ydych am gofrestru gyda’r gwasanaeth, gall y fferyllydd roi cyngor i chi ond ni fydd modd iddo roi unrhyw feddyginiaeth am ddim.

Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth os ydych yn byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gydda Meddyg Teulu.

Bydd rhaid i chi fynd at eich Meddyg Teulu:

  • Os yw’r fferyllydd yn awgrymu y dylech wneud hynny, neu
  • Os oes angen meddyginiaeth na ellir ei gael heb bresgripsiwn gan eich Meddyg Teulu.

Beth mae’r gwasanaeth yn ei gynnig?

Cewch gyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim gan eich fferyllydd cymunedol ar gyfer mân salwch neu anhwylderau cyffredin fel:

  • camdreuliad
  • brech cewyn
  • llygaid sych
  • casewin
  • rhwymedd
  • colig
  • dermatitis
  • llwnc tost/dolur gwddf
  • dolur rhydd
  • brech yr ieir
  • dafadennau
  • tarwden y traed
  • peils
  • edeulyngyr
  • poen cefn
  • heintiau ar y llygaid
  • clefyd y gwair
  • wlseri ceg
  • llindag y wain

 

  • llau pen
  • dolur annwyd
  • llindag y geg

 

  • torri dannedd
  • acne
  • clefyd crafu

 

 

Share: