Beth yw Presgripsiynau Amlroddadwy?
Mae presgripsiynau amlroddadwy yn system lle gall cleifion sydd ag angen parhaus am feddyginiaeth gael cyflenwadau rheolaidd heb orfod gweld y meddyg bob tro y mae angen presgripsiwn ffres arnynt.
Sut maen nhw'n gweithio?
Pan ddechreuwch ar feddyginiaeth y bydd angen i chi ei gymeryd yn barhaus, bydd eich meddyg yn awdurdodi nifer penodol o bresgripsiynau amlroddadwy y gellir eu rhoi cyn y bydd angen iddo/iddi eich gweld eto i wirio effeithiolrwydd a diogelwch y feddyginiaeth. Bydd nifer yr achosion o bresgripsiynau amlroddadwy yn amrywio yn ôl y feddyginiaeth a'ch cyflwr clinigol. Bydd gan y rhan fwyaf o broblemau ddigon o feddyginiaeth am gyfnod o 28 diwrnod. Byddwch yn cael ffurflen bresgripsiwn werdd ar gyfer y fferyllydd a ffurflen wen, y slip ailadrodd, i chi'ch hun. Cadwch y slip ailadrodd hwn yn ddiogel gan ei fod yn cynnwys rhestr o'r holl feddyginiaethau rydych yn eu cymeryd yn rheolaidd a bydd ei angen arnoch i archebu mwy. Gall fod yn ddefnyddiol iawn hefyd i feddygon heblaw eich meddygon teulu wybod pa feddyginiaethau rydych yn eu cymeryd a dylech ddod â'r ffurflen hon i unrhyw glinigau ysbyty yr ydych yn eu mynychu. Pan fydd angen mwy o feddyginiaeth arnoch, rydych yn ticio'r meddyginiaethau ar y slip ailadrodd nad ydych yn rhedeg yn brin ohonynt, ac yn danfon y slip i'r Feddygfa. Yna byddwn yn cyhoeddi o fewn 48 awr, dau ddiwrnod gwaith:
Dros y Ffôn |
Peidiwch â ffonio i archebu eich presgripsiynau |
Mewn Person |
Dosbarthwch y slip â llaw i'n derbynyddion neu ei bostio yn y blwch post coch ger y brif fynedfa. |
Trwy’r Post |
Postiwch y slip atom (ond cofiwch gynnwys amlen gyda'ch cyfeiriad a stamp os ydych am i’r ffurflen bresgripsiwn a/neu slip gael eu postio yn ôl atoch). Yna byddwn yn prosesu eich cais am bresgripsiwn o fewn 48 awr o'i dderbyn.
|
Ar-lein |
Mae Ap GIG Cymru nawr wedi disodli Fy Iechyd Ar-lein. Er mwyn sicrhau parhad gwasanaethau, lawrlwythwch yr Ap heddiw - https://app.nhs.wales/login Os angen cymorth gyda'r NHS Login ymwelwch a https://help.login.nhs.uk |
Os oes angen eitem arnoch nad ydych wedi'i rhagnodi ar eich cyfer o'r blaen, bydd angen i chi ffonio'r Feddygfa ar 01248 600212 i drefnu ymgynghoriad ffôn ag un o'n Clinigwyr.