Neidio i'r prif gynnwy

Profion a Chanlyniadau

PROFION A DREFNWYD GAN FEDDYGON YSBYTY
Nid ydym yn cael canlyniadau profion y mae meddygon ysbyty wedi gofyn amdanynt. Mae'r rhain yn cael eu hanfon yn syth i'r ysbyty a dylech gysylltu ag ysgrifennyddes yr ymgynghorydd/arbenigwr sy'n gyfrifol amdanoch. Mae canlyniadau'r profion hyn fel arfer ar gael yn eich apwyntiad ysbyty nesaf.

Mae ein fflebotomydd ar gael i gymeryd gwaed bob bore. Mae'r clinig ar agor o 8.30 y.b. tan 12.30 y.p. Mae modd archebu apwyntiad ar gyfer y clinigau gwaed ymlaen llaw trwy ffonio’r Feddygfa ar 01248 600212.

Cofiwch fod yn rhaid i chi adael i dim y dderbynfa wybod eich bod wedi cyrraedd ar ddiwrnod eich prawf gwaed, hyd yn oed os oes gennych apwyntiad wedi'i drefnu ymlaen llaw fel bod y fflebotomydd yn gwybod eich bod wedi cyrraedd.

Cyn mynychu prawf gwaed bydd eich meddyg neu nyrs wedi dweud wrthych pa brofion sydd eu hangen ac efallai y bydd gennych ffurflen i'w rhoi i'r fflebotomydd. Gallwn hefyd gymeryd profion gwaed y bydd eich meddyg ysbyty yn gofyn amdanynt, mae'n bwysig eich bod yn dod ag unrhyw ffurflenni gyda chi.

Canlyniadau Prawf Gwaed
Caniatewch o leiaf bum diwrnod gwaith cyn ffonio'r Feddygfa i gael eich canlyniad. Gall canlyniadau profion cymhleth gymeryd mwy o amser na hyn i gyrraedd y Feddygfa, a bydd eich meddyg, nyrs, cynorthwyydd gofal iechyd neu fflebotomydd yn rhoi gwybod i chi pa mor hir i aros cyn cysylltu â ni am y canlyniad.

Ffoniwch dydd Mawrth i ddydd Gwener ar ôl 2 y.p. i gael canlyniadau gwaed. Gofynnir i gleifion sy'n galw am ganlyniadau ar ddydd Llun i ffonio yn ddiweddarach yn yr wythnos.

Pelydr-X a Chanlyniadau Sgan
Caniatewch o leiaf saith diwrnod gwaith cyn ffonio'r Feddygfa i gael eich canlyniad. Weithiau bydd y canlyniad yn cymeryd mwy o amser na hyn a bydd eich meddyg, nyrs neu gynorthwyydd gofal iechyd yn rhoi gwybod i chi pa mor hir i aros cyn cysylltu â ni am y canlyniad.

Ffoniwch ar ôl 2.00 y.p. i gael eich canlyniad, gan fod y canlyniadau hyn yn cael eu derbyn yn y Feddygfa amser cinio a'u prosesu erbyn dechrau'r prynhawn.

Share: