Coronafeirws (COVID-19)
Diweddariad Coronafeirws (COVID-19)
Mae’r Feddygfa ar agor i gleifion rhwng 8:00yb a 6:30yh. Os gwelwch yn dda, peidiwch â mynychu'r Feddygfa os ydych wedi profi'n bositif am Covid-19 neu os oes gennych unrhyw un o'r symptomau canlynol:
Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r symptomau uchod/wedi profi'n bositif am Covid-19 ac angen cyngor neu apwyntiad, ffoniwch y Feddygfa ar 01248 600212.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19, ewch i un o'r gwefannau isod:
Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU
Coronafeirws - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)
Gwella o Covid-19
Mae gwella o COVID-19 yn wahanol i bawb a bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella'n llwyr, fodd bynnag, gall rhai pobl brofi symptomau sy'n para wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl i'r haint fynd. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘COVID Hir’.
Gallwch drafod eich symptomau gyda chlinigydd os ydych yn teimlo y gallech fod yn profi COVID Hir. Fodd bynnag, mae llawer iawn o gyngor hunangymorth ar gael hefyd.
Isod mae dolenni i wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i chi os ydych chi, aelod o'r teulu neu ffrind yn gwella ar ôl cael eich heintio gan COVID-19:
COVID Hir - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (gig.cymru)
Your Covid Recovery - Supporting Recovery for Long Covid
Helpu pobl i wella o COVID-19 (COVID hir) | LLYW.CYMRU
Os ydych yn poeni am eich symptomau parhaus ac angen cyngor meddygol, cysylltwch â'r Feddygfa ar 01248 600212 yn ystod ein horiau agor. Os bydd y Feddygfa ar gau ac na all eich pryderon aros nes i ni ail-agor, cliciwch YMA am ragor o wybodaeth am bwy i gysylltu â nhw.