Mae ein hardal cofrestru cleifion yn cwmpasu Bethesda a'r ardal gyfagos oddeutu 6 milltir.
Dewch at ddesg y dderbynfa a gofynnwch am ffurflen gofrestru (GMS1W) y gallwch ei chwblhau wrth y ddesg neu fynd â hi adref gyda chi a'i dychwelyd yn ddiweddarach. Cwblhewch y ffurflen mor llawn â phosibl (bydd y derbynnydd yn eich cynorthwyo os oes angen). Unwaith y bydd y ffurflen hon wedi ei chwblhau, bydd y broses gofrestru yn dechrau a byddwn yn gallu cael eich cofnodion meddygol gan eich meddyg teulu blaenorol.
RHAID llofnodi'r Ffurfflen Gofrestru GMS1W yng nghornel chwith isaf y dudalen flaen. Ni allwn ei dderbyn heb lofnod.
Dim ond Ymweld
Os ydych yn ymweld ac nad ydych fel arfer yn byw yn nalgylch y Feddygfa, gallwch gofrestru fel preswylydd dros dro pe bai angen i chi weld meddyg. Dewch at ddesg y dderbynfa a gofynnwch am ffurflen gofrestru preswylydd dros dro. Bydd y derbynyddion yn eich cynorthwyo gyda'r ffurflen ac i drefnu apwyntiad.
Newid Cyfeiriad neu Rhif Ffôn
Rhowch wybod i ni yn brydlon am unrhyw newid cyfeiriad neu rif ffôn. Gall fod yn bwysig mewn argyfwng a bydd yn sicrhau, os byddwn yn ysgrifennu atoch neu'n eich ffonio ynghylch apwyntiad, ein bod yn cysylltu â chi'n gyflym.