Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Preifatrwydd

Sut mae Practisiau yn trin eich gwybodaeth


Diben darparu’r wybodaeth preifatrwydd hon

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi, ac eraill weithiau, yn darparu gwybodaeth bersonol i ni.  Mae'n nodi pa wybodaeth rydym yn ei gasglu amdanoch chi a pham rydyn yn ei gasglu, sut y gellir defnyddio'r wybodaeth, gyda phwy y gellir ei rhannu a sut y byddwn yn ei warchod a'i gadw'n gyfrinachol.

Mae'r hysbysiad yn egluro pa hawliau sydd gennych i reoli sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, ein sail gyfreithiol dros ei brosesu a sut y gallwch gael gafael arno. Rydym hefyd yn esbonio gyda phwy i gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau a sut i gysylltu â nhw.

Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf yw’r Rheolydd Data ar gyfer y wybodaeth bersonol yr ydym yn ei brosesu, oni nodir yn wahanol. Gallwch gysylltu â’r Feddygfa mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dros y ffôn, e-bost a phost. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar ein tudalen we Manylion y Feddygfa.

 

 

Cwynion

Os oes gennych bryderon neu ymholiadau am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Practis yn uniongyrchol neu ein Swyddog Diogelu Data yn y lle cyntaf.

Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth y Practis

Mr Gerwyn Jones, Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf, Station Road, Bethesda, Gwynedd, LL57 3NE

Ffôn:  01248 600212   Ebost:  Enquiries.yrhenorsaf@wales.nhs.uk

 

Swyddog Diogelu Data

O dan ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU, mae’n ofynnol i’r Practis benodi Swyddog Diogelu Data. Mae’r rôl hon yn hanfodol ar gyfer hwyluso atebolrwydd y Practis a'i gydymffurfiad â gofynion diogelu data.

Swyddog Diogelu Data’r Practis yw:

DPO Support Service
Digital Health and Care Wales (DHCW)
Ty Glan-y-Afon
21 Cowbridge Road East
Cardiff
CF11 9AD

DHCWGMPDPO@wales.nhs.uk

Share: