Neidio i'r prif gynnwy

Adborth

Diolch am ymweld a Canolfan Feddygol Yr Hen Orsaf 

23/11/22
e-Consult

Ffordd arall o gysylltu â'n clinigwyr yw trwy ymweld ag e-Consult. Dim ond ar gyfer materion arferol y dylid defnyddio'r dull hwn o gysylltu. Ewch i Consult Online from Home - Yr Hen Orsaf Medical Centre (webgp.com)   am ragor o wybodaeth.

Beth yw eConsult?
"Mae eConsult yn galluogi practisau meddygon teulu yn y GIG i gynnig ymgynghoriadau ar-lein i'w cleifion. Mae hyn yn galluogi cleifion i gyflwyno eu symptomau neu geisiadau i'w meddyg teulu eu hunain yn electronig ac mae'n cynnig gwybodaeth hunangymorth y GIG bob awr o'r dydd, eu cyfeirio at wasanaethau, a gwiriwr symptomau.

eConsult yw’r offeryn brysbennu digidol ac ar-lein a ddefnyddir fwyaf ym maes gofal sylfaenol y GIG, wedi’i adeiladu gan feddygon teulu’r GIG ar gyfer cleifion y GIG, wedi’i gynllunio i wella mynediad cleifion, gwella effeithlonrwydd practisau a chyfeirio cleifion i’r lle iawn ar yr amser cywir ar gyfer eu gofal. Yn fyw mewn dros 3,200 o bractisau’r GIG, mae eConsult yn rhoi mynediad i filiynau o gleifion at eu meddyg teulu eu hunain ar-lein.” - eConsult 

Mae'r gwasanaeth yn caniatáu atodi ffotograffau ac rydym yn eich annog i wneud hynny lle bo hynny'n ddefnyddiol, er enghraifft ar gyfer brech / acne / clwyfau ac ati.

Ni ddylid defnyddio eConsult ar gyfer ceisiadau brys am gyngor neu driniaeth feddygol. Os ydych chi'n profi symptomau sy'n gofyn am driniaeth acíwt yn ystod y dydd, ffoniwch y feddygfa ar 01248 600212. Ar gyfer argyfyngau sy'n bygwth bywyd ffoniwch 999 neu ewch i'ch adran damweiniau ac achosion brys agosaf. Cliciwch YMA i gael rhagor o wybodaeth am bwy i'w ffonio pan fyddwn ar gau.

Share: