Neidio i'r prif gynnwy

Ffliw

 

YMGYRCH FFLIW 2026/27
 
Pwy sy’n gymwys i gael brechlyn y Ffliw yn rhad ac am ddim yn y Feddygfa o’r 1af Hydref ymlaen?

 

  • Pawb sy’n 65 oed neu’n hŷn (gan gynnwys y rhai sy’n 65 erbyn 31/03/27)
  • Pawb rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, e.e. asthma (angen mewnanadlydd steroid yn rheolaidd), COPD, clefyd cronig y galon neu’r pibellau gwaed, clefyd cronig yr arennau (cam 3, 4 neu 5), clefyd cronig yr iau/afu, cyflwr niwrolegol cronig (e.e. clefyd Parkinson neu glefyd Motor Niwron), diabetes neu annigonolrwydd adrenal, imiwnedd is oherwydd afiechyd neu driniaeth (e.e. HIV/AIDS neu driniaeth cancr), epilepsi, neu ddueg ar goll / problem gyda’r dueg.
  • Gordewdra difrifol gyda BMI o 40 neu uwch ac yn 16 oed neu’n hŷn
  • Merched beichiog
  • Salwch meddwl difrifol
  • Byw mewn cartref gofal
  • Digartref
  • Anabledd dysgu
  • Cysylltiadau cartref unigolion sydd ag imiwnedd is
  • Gofalwyr di-dâl person y gallai ei iechyd neu ei les fod mewn perygl pe bai’r gofalwr yn mynd yn sâl (nid oes rhaid i’r gofalwr fyw gyda’r person na bod yn perthyn iddo)
  • Pob plentyn 2 a 3 oed ar 31 Awst 2026 (dyddiad geni ar neu ar ôl 01/09/2022 ac ar neu cyn 31/08/2024)

- Clinigau Brechu Y Ffliw Yn Y Feddygfa

Share: